Dewch i Shwshaswyn am gyfle i arafu a chanolbwyntio. Mae'r gyfres 26 rhan Shwshaswyn yn croesawu plant i fyd tawel Seren, Fflwff a Capten fydd yn cyflwyno plant rhwng tair a saith oed i rai o dechnegau ymwybyddiaeth ofalgar.
Heddiw, mae hi'n bwrw glaw yn y parc, felly mae'r Capten, Seren a Fflwff yn edrych ar sut mae creaduriaid yn cadw'n sych.
Heddiw, mae Fflwff, y Capten a Seren yn goleuo'r gegin dywyll gyda fflachlamp.
Heddiw mae Seren yn clywed swn tawel yn y parc, mae Fflwff yn gwrando ar gân adar bach ac mae'r Capten yn canolbwyntio ar froga swnllyd.
Heddiw, mae'r ffrindiau bach yn cymharu pethau hir a phethau byr mae nhw wedi darganfod ar y traeth.
Heddiw, mae'r Capten a Seren yn gwneud diod gyda ffrwythau, ond pwy sydd am ei yfed tybed?
Heddiw, mae gan Seren fag yn llawn losin, mae Fflwff yn darganfod berfa yn llawn o ddail tra mae'r Capten yn gwagio bwced sydd yn llawn o ddwr.
Heddiw, mae Fflwff yn agor a chau ymbarel, ac mae'r Capten yn gwrando ar gregin yn agor a chau.
Heddiw, mae gan Seren esgidiau glaw newydd, mae Fflwff eisiau chwarae efo hen ddail tra mae'r Capten yn sylwi fod bywyd newydd wedi dod i'r parc.
Heddiw, mae'r ffrindiau bach yn y gegin i weld pa mor wahanol mae pethau yn edrych o fod yn bell i ffwrdd neu yn agos atynt.
Mae Fflwff eisiau bod yn goeden fawr ac yn ddeilen fach, mae'r Capten yn cymharu blodyn haul a blodyn menyn, tra mae Seren yn edrych ar drychfil mawr a thrychfil bach!
Heddiw, mae Seren yn codi a dymchwel castell tywod, mae Fflwff yn adeiladu twr o'r cerrig sydd ar y traeth tra ma'r Capten yn mynd i fyny ac i lawr ar donnau'r môr.
Heddiw, mae'r Capten yn rhoi menyn oer ar dôst poeth Seren, tra mae Fflwff yn chwarae yn y stêm cynnes.
Heddiw, mae'r ffrindiau bach yn y parc yn edrych ar greaduriaid hir a chreaduriaid byr.
Heddiw mae hi'n boeth ar y traeth ac mae Seren, Fflwff a'r Capten yn mynd i'r cysgod i ddianc o'r gwres.
Dewch i Shwshaswyn am gyfle i arafu a chanolbwyntio. Heddiw, mae hi'n boeth ar y traeth ac mae Seren, Fflwff a'r Capten yn mynd i mewn i'r cysgod i fod allan o'r gwres.
Mae Fflwff, y Capten a Seren yn defnyddio blawd, siwgwr, wyau a menyn i greu cacen a chymysgu'n gyflym ac yn ara.
FlickList VIP
Recommended for you